OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 2802 (Cy. 300) (C. 97)
amaethyddiaeth, CYMRU
Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (mccc 3) (“y Mesur”).
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym erthyglau 4(3) a 5(4) ar 28 Tachwedd 2011. Mae gweddill darpariaethau'r Mesur, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn cael eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2012.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol am baratoi a chyflwyno cyfrifon Bwrdd Ardollau Cymru am y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2011 i 31 Mawrth 2012 (“blwyddyn ariannol 2011/2012”) i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw paratoi'r cyfrifon hynny ac unrhyw faterion sy'n codi ohonynt.
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaeth arbed sy'n cadw rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru i archwilio, ardystio, ac adrodd ar gyfrifon Bwrdd Ardollau Cymru am y flwyddyn ariannol 2011/2012 ynghyd â'u gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 2802 (Cy. 300 ) (C. 97)
amaethyddiaeth, CYMRU
Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2011
Gwnaed 20 Tachwedd 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer pwerau a roddwyd gan adrannau 17(2) ac 18 o Fesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010([1]).
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.—(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig
Coch (Cymru) 2010 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed)
2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010;
(b) ystyr “y Gorchymyn Ardollau” (“the Levy Order”) yw Gorchymyn Bwrdd Ardollau Cymru 2008([2]);
(c) ystyr “blwyddyn ariannol 2011/2012” (“2011/2012 financial year”) yw 1 Ebrill 2011 hyd at 31 Mawrth 2012 gan gynnwys y dyddiadau hynny.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2012
2. Yn ddarostyngedig i erthyglau 3 a 4, daw darpariaethau'r Mesur i rym i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym fel a ganlyn—
(1) adrannau 4(3) a 5(4) ar 28 Tachwedd 2011;
(2) gweddill yr adrannau ar 1 Ebrill 2012.
Darpariaeth drosiannol
3.—(1)(1) O
ran y flwyddyn ariannol 2011/2012 mae rhwymedigaethau Bwrdd
Ardollau Cymru o dan erthyglau 13(3)(b) (paratoi cyfrifon) a 13(4)
(cyflwyno cyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru) o'r Gorchymyn
Ardollau wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.
(2) Cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw unrhyw faterion sy'n codi o'r cyfrifon sy'n gofyn am weithredu pellach.
Darpariaeth arbed
4. O ran y cyfrifon a baratowyd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011/2012, mae rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan erthygl 13(5) (archwilio, ardystio, adrodd ar gyfrifon a'u gosod) o’r Gorchymyn Ardollau yn parhau i fod yn effeithiol.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2011